Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd

Dyddiad: Dydd Llun, 18 Mai 2020

Amser: 10.00 - 10.47
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6108


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Mick Antoniw AS (Cadeirydd)

Suzy Davies AS

Carwyn Jones AS

Dai Lloyd AS

Staff y Pwyllgor:

P Gareth Williams (Clerc)

Sarah Sargent (Ail Glerc)

Rachael Davies (Dirprwy Glerc)

Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol)

Craig Griffiths (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cadarnhaodd y Cadeirydd, yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, ei fod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd.

 

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.

 

O dan Reol Sefydlog 17.24A, datganodd Suzy Davies AC fuddiant mewn perthynas ag eitem 2.2.

 

</AI1>

<AI2>

2       Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

</AI2>

<AI3>

2.1   SL(5)541 - Rheoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Cymru) 2020

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru a chytunodd y bydd yn cyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

</AI3>

<AI4>

2.2   SL(5)543 - Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Taliadau i Ffermwyr) (Coronafeirws) (Cymru) 2020

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd, ac i dynnu sylw at faterion o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE.

 

</AI4>

<AI5>

2.3   SL(5)544 - Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) 2020

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

</AI5>

<AI6>

2.4   SL(5)545 - Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

 

</AI6>

<AI7>

2.5   SL(5)546 - Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

</AI7>

<AI8>

2.6   SL(5)548 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2020

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

 

</AI8>

<AI9>

3       Offerynnau statudol y mae angen i’r Senedd gydsynio â hwy (Memoranda Cydsyniad Offeryn Statudol)

</AI9>

<AI10>

3.1   SICM(5)28 - Rheoliadau Deddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020 (Diwygiadau Canlyniadol) 2020

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol ac roedd yn fodlon arno. Cytunodd y Pwyllgor i drafod adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

</AI10>

<AI11>

4       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

</AI11>

<AI12>

5       Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Pysgodfeydd – adroddiad drafft

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft, a chytunodd arno yn amodol ar fân newidiadau. Nododd yr Aelodau y byddai'r adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol, sef 21 Mai 2020. 

</AI12>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>